Peilot Arloesedd
Allwedd arloesi yw deall yn llawn y broblem rydych yn ceisio ei datrys.olve.
Nid oeddem yn dechrau gyda dalen wag o bapur.
Fe wnaethom adeiladu ar y gwaith a wnaed fel rhan o raglen Dyfodol Tai i ddynodi’r heriau systemig mawr sy’n ein wynebu drwy redeg 15 Hac Heriau i ailedrych arnynt drwy lens COVID-19.
Roedd rhai o’r heriau yn parhau fel yr oeddent, cafodd rhai eu cynyddu a daeth rhai newydd i’r wyneb fel canlyniad i’r pandemig.
Mynychodd 120 o bobl yr Haciau, 78 o blith yr aelodau a 42 o sefydliadau allanol a oedd yn wirioneddol fanteisiol i ddeall yr her o wahanol safbwyntiau.
Ar ddiwedd y broses roeddem wedi dynodi 5 maes her allweddol i’w hymchwilio ymhellach, sef:
- Uno’r dotiau rhwng Iechyd a Thai
- Dod â digartrefedd i ben
- Cymunedau cysylltiedig a chydnerth
- Adferiad economaidd, a
- Datgarboneiddio – Gwneud ein cartrefi yn fwy effeithiol o ran ynni.
Drwy broses ryngweithiol o gyfranogiad cynulleidfa a sesiwn gyda’r grŵp llywio a sefydlwyd i ddewis y maes her ar gyfer y rhaglen wreiddiol, rydym wedi llunio map ffordd sy’n dechrau gyda maes her ‘uno’r dotiau rhwng tai ac iechyd’ i gam nesaf y broses.
Er bod rhai o’r trafodaethau yn ymwneud â phroblemau strwythurol sydd angen newid polisi a chyllid (caiff hyn ei gyfarch fel rhan o Alcemi:Dylanwadu ar gyfer dyfodol gwell), roedd sgyrsiau eraill yn canolbwyntio ar yr hyn mae gennym ddylanwad drosto.
Hyn fydd y ffocws ar yr her a sefydlwyd gweithgor bach i gynnal y cynllun peilot. Bydd mwy o fanylion yn dilyn yn y dyfodol agos.
Beth nesaf?
Check out the timeline below.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â edwina-ohart@chcymru.org.uk
Tachwedd
/
Rhagfyr
Gweithgor:
- Mireinio’r her
- Gosod manyleb yr her
Ionawr
2021
Gweithgor:
Lansio her i’r cyhoedd ar gyfer datrysiadau.
Chwefror
Gweithgor/Grŵp Llywio:
Rhestr fer a chymhwyster – pa syniadau fyddwn i’n dod â nhw ymlaen?
Chwefror
/
Mawrth
Gweithgor/Grŵp Llywio:
Llwybr cynnydd – camau i brofi syniadau