Labordai Dirnadaeth – hyfforddiant am ddim ar gasglu dirnadaeth ddihafal
Mae’r Grŵp Llywio wedi dynodi’r broblem y byddwn yn canolbwyntio arni yng Nghymru fel rhan o’r rhaglen Dyfodol Tai. Datgelir hyn ar 25 Mawrth. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd her un ai’n bersonol mewn gweithdy Adnabod Her neu drwy ein harolwg ar-lein.
Cyfnod nesaf y rhaglen yw cynnal nifer o Labordai Dirnadaeth I hyfforddi’r sector i gasglu dirnadaeth i dyrchu’n ddwfn a chanfod cymaint ag y medrwn am broblem a her ein canfyddiadau ein hunain. Bydd yr hyfforddiant hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer eich swydd eich hunan o fewn y sector.
Beth yw Labordai Dirnadaeth?
Yr allwedd i ddirnadaeth wych yw syrthio mewn cariad gyda’r broblem.
Caiff yr hyfforddiant ei hwyluso gan Arweinwyr Dirnadaeth o CHC sydd wedi dilyn hyfforddiant Arweinydd Dirnadaeth yn flaenorol gyda ?WhatIf! Innovation.
Yn ystod y Labordai Dirnadaeth, byddwch yn dysgu dulliau a thechnegau allweddol arloesi i ddod yn dditectifs yn casglu dirnadaeth wych drwy sgyrsiau ac ymchwil desg.
Byddwch yn casglu dirnadaeth ddofn am ein problem. Unwaith y gallwn ddeall y broblem yn well, yna gallwn ddechrau ei datrys.
Mae’r gweithdai yn agored i holl staff cymdeithasau tai.
Disgwylir i’r rhai sy’n mynychu ddychwelyd i’w sefydliadau a chynnal sesiwn casglu dirnadaeth gydag aelodau eraill o staff a thenantiaid a bwydo hyn yn ôl i CHC.
Gellir cyfyngu lleoedd i ddau neu dri o bob cymdeithas tai (yn dibynnu ar y galw) felly archebwch yn gynnar os gwelwch yn dda.
Ble cynhelir y Labordai Dirnadaeth?
- Gwynedd | Ebrill 3
- Sir Fynwy | Ebrill 20
- Cyffordd Llandudno | Ebrill 23
- Abertawe | Ebrill 27
- Sir Gaerfyrddin | Ebrill 28
- Powys | Ebrill 29
- Caerdydd | Mai 12
- Merthyr | Mai 14
- Casnewydd | Mai 21
- Dinbych | Mai 27