Dylanwadu i adeiladu dyfodol gwell
Dechreuodd ein rhaglen Dylanwadu ar gyfer Dyfodol Gwell ym mis Gorffennaf pan wnaethom gynnal nifer o sesiynau gyda dros 100 o gydweithwyr mewn cymdeithasau tai a thenantiaid i ddynodi’r rhwystr mwyaf sy’n ein hatal rhag cyflawni ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.
Dynodwyd 23 her, a gafodd eu profi gyda’r sector, eu mireinio a’u categoreiddio fel sy’n dilyn:
- Adferiad economaidd – adeiladu lleoedd llewyrchus
- Cymunedau cysylltiedig ac ariannol gydnerth
- Dod â digartrefedd i ben yng Nghymru
- Uno’r dotiau – iechyd, tai a gofal cymdeithasol
- Newid hinsawdd – gwneud ein cartrefi yn fwy effeithiol o ran ynni
Fe wnaethom gynnal nifer o Haciau Her gyda’r sector a phartneriaid allanol ym mis Gorffennaf a mis Awst i wir ddeall pob un o’r heriau hyn. Bu safbwyntiau cynifer o bartneriaid allanol yn werthfawr tu hwnt wrth i ni rannu gwybodaeth a dirnadaeth am yr heriau. Fe wnaethom ofyn i’n hunain pa rym sydd gennym i fynd i’r afael â’r broblem a beth fydd yn ein helpu a’n llesteirio?
Yna ym mis Tachwedd cynhaliwyd 5 gweithdy ‘Gwneud y Newid’ i fanteisio ar ddoethineb y dyrfa i ddynodi datrysiadau i’r heriau hyn.
Caiff rhai o’r heriau eu hymchwilio ymhellach fel rhan o’n gwaith arloesi, ond mae llawer o’r heriau a datrysiadau yn ymwneud â phroblemau strwythurol sydd angen newid polisi a chyllid yn ymddangos yn ‘Cartref’, ein maniffesto ar gyfer yr etholiad i Senedd Cymru yn 2021.
Rydym yn wirioneddol falch o ‘Cartref’ sy’n wirioneddol gynrychioli ein dull gweithredu partneriaeth i ddatblygu’r maniffesto. Mae’n gwneud rhai gofynion penodol i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad ac, yn bwysig, hefyd yn ymrwymo’r sector i weithio wrth ochr y Llywodraeth honno mewn nifer o feysydd allweddol.
Diolch i chi am chwarae eich rhan! Nid yw’r gwaith yn dod i ben fan hyn. Byddwn yn cysylltu gyda chi eto gyda mwy o fanylion am ymgyrch ehangach ‘Cartref’ a chyfleoedd i chi gymryd rhan.
Gorffennaf
Adnabod Her
- 117 o staff cymdeithiau tai a thenantiaid wedi cymryd rhan
- 23 her wedi eu dynodi a gafodd eu hadolygu a’u mireinio yn 5 thema eang
Awst
Haciau Her
- 120 o bobl, 78 o staff cymdeithasau tai a 42 cynrychiolydd o sefydliadau allanol
- Rhannu dirnadaeth a gwybodaeth i ddeall yr heriau yn llawn
Medi
Gweithdai Gwneud y Newid
- 107 o bobl i gyd, 60 o gymdeithasau tai a 47 o sefydliadau allanol
- Dynodi pa newid sydd angen iddo ddigwydd i fynd i’r afael â’r heriau
Medi
Llunio maniffesto
Profi gyda’r aelodaeth, cyrff allanol a phleidiau gwleidyddol
Hydref
Ymgynghori gydag aelodau
Profi ymhellach, llunio a chytuno ar y Maniffesto
Tachwedd
Lancio Maniffesto
Rhagfyr